Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth,
14 Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13558
------
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.36
3 Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Sicrhau Treth Gyngor Decach
Dechreuodd yr eitem am 14.57
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Sylfaenol - Tynnwyd yn ôl
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
5 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar y Gwerthusiad o’r Cod Ymarfer Awtistiaeth a Niwrowahaniaeth
Dechreuodd yr eitem am 15.33
6 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Data ar Leoliadau Tomenni Glo
Dechreuodd yr eitem am 16.08
7 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Hawliau Plant
Dechreuodd yr eitem am 16.48
8 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd: Dileu TB Buchol
Dechreuodd yr eitem am 17.15
9 Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050: Adroddiad Blynyddol 2022 i 2023
Dechreuodd yr eitem am 17.53
10 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Anghenion Seilwaith Trawsyrru Trydan Cymru ar gyfer Sero Net
Dechreuodd yr eitem am 18.27
11 Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023
Dechreuodd yr eitem am 19.04
NDM8399 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
12 Gorchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023
Dechreuodd yr eitem am 19.15
NDM8398 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynlluniau Masnachu Allyriadau Cerbydau 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Hydref 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro
Dechreuodd yr eitem am 19.27
NNDM8401 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal y rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM8400 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Tachwedd 2023.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
13 Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023
Dechreuodd yr eitem am 19.28
NNDM8400 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5, yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2023 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2023.
Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
14 Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 Bil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 19.35
NDM8402 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Senedd Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i Fil yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn ganlynol:
a) Adrannau 1-20;
b) Atodlen 1;
c) Adrannau 21-22;
d) Atodlen 2;
e) Adrannau 23-30;
f) Teitl hir.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
15 Dadl: Cyfnod 4 Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Dechreuodd yr eitem am 19.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM8403 Eluned Morgan (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod y Senedd yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru)
Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd y cynnig.
16 Cyfnod pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 19.48
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 19.50
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023